Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM HENRY ( 1860 - 1932 ), newyddiadurwr a hanesydd lleol ; g. 4 Chwefror 1860 yn y Mwmbwls , gerllaw Abertawe , mab William Henry Jones ( 1826 - 1912 ) a'i wraig Ann ( Fisher ) . Cafodd ei addysg yn y British School , Goat Street , Abertawe , a bu am flynyddoedd wedyn yn gweithio fel newyddiadurwr a golygydd yn Abertawe , Caernarfon ( 1879 ), Exeter , Norwich , a Yarmouth cyn dychwelyd i Abertawe yn 1913 . Priododd, 1885 , Annie Elizabeth , merch Thomas Watkin Williams , Wellington Foundry , Abertawe . Cyhoeddodd lu o erthyglau, llyfrynnau, a llyfrau ar hanes personau a lleoedd yng Nghymru a Lloegr — gw. rhestr o 29 ar ddalen olaf ei History of Swansea and of the Lordship of Gower ( Carmarthen , 1920 ); y llyfr hwn, ei History of the Port of Swansea ( Carmarthen , 1922 ), a'i Old Karnarvon , 1882 , ydyw ei weithiau mwyaf pwysig. Cafodd ei ddewis, c. 1920 , yn llyfrgellydd a phennaeth y Royal Institution of South Wales , Abertawe ; edrychid arno hefyd fel hanesydd swyddogol corfforaeth Abertawe . Bu f. 17 Mawrth 1932 yn ei gartref yn Sketty Road , Abertawe .

Llyfryddiaeth:

  • Who's who in Wales , 1920 ;
  • S.W. Post , 17 Mawrth 1932 ;
  • Western Mail , 18 Mawrth 1932 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth