JONES, HENRY (bu farw 1592), gŵr o'r gyfraith sifil

Enw: Henry Jones
Dyddiad marw: 1592
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr o'r gyfraith sifil
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Daeth yn gymrawd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, yn 1546, B.C.L. yn 1549, yn D.C.L. yn 1552 (18 Gorffennaf), ac fe'i derbyniwyd i Doctors' Commons ar 14 Hydref yr un flwyddyn. Yn 1554 rhoddwyd iddo reithoraeth ddiofal Llanrwst, cafodd ei wneuthur yn ganon symudol Llanelwy yn 1560, a bu'n dal rheithoraeth Llandinam ('y gyfran gyntaf' ohoni) o 1561 hyd 1592. Bu'n seneddau 1558-9 dros Hindon, swydd Wilts (un o fwrdeisdrefi 'poced' iarll Pembroke, y mae'n debyg).

Daeth i gael ei gyfrif yn awdurdod yn y gyfraith sifil; yn 1571 (17 Hydref) yr oedd yn un o'r pum doethur dysgedig (gyda William Awbrey, a David Lewis, barnwr) y bu'r frenhines Elisabeth yn gofyn eu barn ar y cwestiwn a ellid dwyn John Leslie, esgob Ross, gerbron llysoedd barn Lloegr i ateb am ei gynllwynion yn ei herbyn hi pan oedd ef yn llysgennad yn Lloegr dros Mari frenhines Sgotland. Yn 1576 gofynnodd yr archesgob Grindal ei farn (a hefyd farn ei ganghellor, Thomas Yale, a barn Awbrey) ar fater gwella llysoedd eglwysig yn ei archesgobaeth; gwelir barn Jones wedi ei hargraffu yn Strype, Grindal, 303. Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr sefydliad addysgol Dr. John Gwynne.

Bu farw fis Chwefror 1592 a chladdwyd ef yn St. Benet's, Paul's Wharf, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.