Daeth Griffith Jones yn aelod gohebol o'r S.P.C.K. , 18 Mehefin 1713 ; ar 13 Gorffennaf yr un flwyddyn bu o flaen pwyllgor y S.P.C.K. yn Llundain fel ceisiwr swydd ysgolfeistr a chenhadwr yn Tranquebar , India , o dan yr East India Mission ; yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwrthododd y swydd. Rhwng 1714 a 1716 bu raid iddo ymddangos droeon yn llys yr esgob yng Nghaerfyrddin gerbron yr esgob Ottley , Edward Jones y canghellor , a David Havard , dirprwy yr esgob , am iddo anwybyddu cyfreithiau ac arferiadau yr Eglwys . Rhoes ei noddwr , Syr John Philipps , reithoraeth Llanddowror iddo ar 27 Gorffennaf 1716 . Yma cafodd dyletswyddau ynglŷn â gwaith y S.P.C.K. lawer o sylw ganddo, a chyda Moses Williams [q.v.] ac Erasmus Saunders [q.v.] bu'n cynorthwyo'r ymdrechion i gael argraffiadau newydd o'r Beibl Cymraeg yn 1717 a 1727 . O 30 Mehefin hyd 19 Awst 1718 bu'n teithio trwy Gymru , Lloegr , a Sgotland gyda John Philipps , gan bregethu mewn llawer lle. Ar 11 Chwefror 1719/20 priododd Margaret , chwaer ei noddwr . Yn 1722 gwysiwyd Griffith Jones a 44 o glerigwyr eraill yn archddiaconiaeth Caerfyrddin (enwir hwynt yn y petisiwn) i ymddangos yn llys yr Exchequer am nad oeddent yn talu taliadau a oedd yn ddyledus i'r archddiacon , Edward Tenison ; nid ydyw'r dyfarniad yn yr achos ar gael yn y Public Record Office .
Ysgrifennodd Griffith Jones at y S.P.C.K. ar 22 Medi 1731 yn awgrymu sefydlu ‘ Welch School ’ yn Llanddowror . Y flwyddyn honno peidiasai nifer ysgolion y S.P.C.K. yng Nghymru â chynyddu. O'r 96 o ysgolion a sefydlasid, dechreuwyd 68 yn ystod y cyfnod 1699-1715 a 28 yn y cyfnod 1716-27 . Ni sefydlwyd ysgol gan y S.P.C.K. yn sir Gaerfyrddin wedi'r flwyddyn 1713 ac yr oedd rhai ysgolion wedi diflannu cyn 1713 . Ni wyddys i sicrwydd pa bryd y cychwynnwyd yr ysgolion cylchynol Cymreig ; yn 1737 , fodd bynnag, yr oedd 37 o ysgolion gyda 2,400 o ysgolheigion. Cynhelid yr ysgolion am gyfnod o dri mis yn yr un man, ym misoedd y gaeaf, fel rheol, pan oedd llai o waith i'w wneud yn y ffermydd. Addysgid y plant i ddarllen y Beibl Cymraeg a dysgu allan Gatecism yr Eglwys . Cynhelid ysgolion gyda'r nos er mwyn y rhai na allai ddyfod yn ystod oriau gwaith. Addysgid yr athrawon gan Griffith Jones yn Llanddowror . Bu'r mudiad yn llwyddiant mawr o'r cychwyn; pan fu'r sylfaenydd f. yn 1761 mynegwyd yn Welch Piety , yr adroddiad blynyddol, i 3,495 o ysgolion gael eu sefydlu ac i dros 158,000 o ddisgyblion gael addysg ynddynt mewn cyfnod o chwarter canrif. Heblaw trefnu'r ysgolion bu Griffith Jones yn brysur yn ysgrifennu tua 30 o lyfrau ysgol, pamffledi, a thraethodau diwinyddol .
Ar ôl marw Griffith Jones yn 1761 bu Madam Bridget Bevan [q.v.] yn trefnu i gario'r gwaith gyda'r ysgolion ymlaen a gwnaethpwyd hynny yn llwyddiannus.
Nid oedd ‘Ysgolion Gruffydd Jones ’ yn gymeradwy gan amryw o wŷr pennaf yr Eglwys ; yn ystod 1745-52 cyhoeddwyd pum pamffled yn ymosod ar yr ysgolion a'u sylfaenydd — yn arbennig felly oblegid ei gysylltiad â Whitefield ac arweinwyr Methodistaidd eraill. Ysgrifennwyd y rhain gan John Evans , Eglwys Cymyn , ac eraill a oedd yn gysylltiol ag ef, ar awgrym Edmund Gibson , esgob Llundain (meddai ef). Cyn pen tair blynedd wedi marw Griffith Jones yr oedd yr hanes am yr ysgolion wedi cyrraedd cyn belled â Rwsia , ac yn 1764 gwnaethpwyd adroddiad arnynt gan gomisiynwr dros Catherine II , ymerodres y wlad honno.
Bu Margaret , gwraig Griffith Jones , f. ar 5 Ionawr 1755 — dywedwyd amdani ei bod yn wraig dduwiol ac elusengar; bu yntau f. 8 Ebrill 1761 , yn 77 oed, yn nhŷ Madam Bevan yn Llacharn , lle y bu'n byw ar ôl marw ei wraig. Claddwyd Griffith Jones a'i wraig yn eglwys Llanddowror .
Dr Mary Clement, Ph.D., Llanelli / Aberystwyth