JONES
,
OWEN GETHIN
(‘
Gethin
’;
1816
-
1883
),
saer a llenor
;
g.
1 Mai 1816
yn
Tyn-y-cae
,
Penmachno
, yn fab i
Owen
a
Grace
Jones
.
Saer maen
oedd ei dad, a dygwyd yntau i fyny yn yr un grefft, ond yn nes ymlaen troes yn
saer coed
, yna'n
adeiladydd
, ac yn y diwedd yn ‘
contractor
’ ar raddfa go helaeth. Priododd (
1843
) ag
Ann
, ferch
William
Owen
o'r
Coetmor
ac ŵyres i'r
porthmon
adnabyddus
Robert
Jones
o'r
Bwlch Bach
yn
Nolwyddelan
; bu hi f. yn
1873
. Yn
1852
prynodd
Dyddyn Cethin
a gweddnewidiodd yr adeiladau a'r tir yno. Ar ben ei
weithgarwch fel
amaethwr
a
chrefftwr
a
dyn busnes
, yr oedd ‘
Gethin
’ yn
llenor
da, yn
brydydd
diwyd, ac yn
hynafiaethydd lleol
gwybodus, fel y prawf ei draethodau ar hanes plwyfi
Penmachno
,
Ysbyty Ifan
, a
Dolwyddelan
.
Parlyswyd
ef
ddechrau 1882
, a bu f.
29 Ionawr 1883
. Cyhoeddwyd yn
1884
y gyfrol
Gweithiau Gethin
, sy'n cynnwys byr-gofiant y seiliwyd y nodyn presennol arno.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor.