Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM GARMON ( 1884 - 1937 ), athro hanes, a llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl , g. 15 Tachwedd 1884 yn Birkenhead , mab William Jones , Birkenhead (o ffyrm Jones, Burton, a'r Cwmni , peirianwyr , Lerpwl ), a Jane Jones , o'r Wyddgrug . Addysgwyd ef yn Ysgol y Brenin William , Ynys Manaw , a phan orffennodd ei gwrs yno ei fwriad ydoedd cyfaddasu ei hun ar gyfer masnach . Bu mewn swyddfa yn Lerpwl am ddwy flynedd, ac yn 1903 aeth i Brifysgol Lerpwl i weithio am radd mewn peirianaeth . Cwplâodd yr ‘Intermediate’ yn 1905 , ond erbyn hynny yr oedd wedi dod dan ddylanwad yr athro J. M. Mackay , a daeth o hyd i'w briod faes — hanes a llenyddiaeth . Trodd ei gefn ar beirianaeth , ac yn 1905 ymunodd ag adran y celfyddydau. Yn 1908 enillodd ei radd mewn hanes, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf, a dyfarnwyd iddo hefyd y ‘ Charles Beard Fellowship .’ Yn 1909 enillodd radd M.A. , a gwnaed ef yn gymrawd o'r brifysgol.

Treuliodd ei holl yrfa, o hynny ymlaen, yng ngwasanaeth Prifysgol Lerpwl , ac ar gyfrif ei fedr gweinyddol cydnabyddir iddo chwarae rhan tra phwysig yn ei datblygiad. Bu'n ddarlithydd mewn hanes ( 1913-9 ), ac yn athro ychwanegol (‘associate’) o 1924 hyd ei farw; yn 1928 fe'i penodwyd hefyd yn llyfrgellydd y brifysgol .

Cyhoeddodd ‘ A Welsh Sunday Epistle ’ ( Mackay Miscellany ); ‘ Bosworth Field, an episode of Welsh history ’ ( Trans. Liverpool Welsh National Society ), 1912 ; ‘ York and Lancaster ’ ( Bell's Source Books of English History ); ‘ Welsh Nationalism and Henry Tudor ’ ( Trans. Cymm. , 1917-8 ).

Yn 1923 priododd Eluned , unig ferch ( Syr ) John Edward Lloyd , Bangor . Bu f. 28 Mai 1937 , a chladdwyd ef ym meddrod ei deulu ym mynwent Flaybrick , Birkenhead . Dodwyd cofeb iddo, wedi ei cherfio gan Tyson Smith , yn llyfrgell Cohen , Prifysgol Lerpwl .

Llyfryddiaeth:

  • The Liverpool Daily Post 29 Mai 1937 , 31 Mai 1937 ;
  • Y Brython , 3 Mehefin 1937 ;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

John John Williams, M.A., (1884-1950), Birkenhead