JONES, JOHN FOULKES (1826 - 1880), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Foulkes Jones
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1880
Priod: Margaret Jones (née Jones)
Rhiant: Lydia Jones (née Foulkes)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William John Thomas

Ganwyd ym Machynlleth, 6 Mehefin 1826, yn fab i John Jones o'r Fron Deg (Wrecsam) a'i wraig Lydia, merch i Thomas Foulkes ac ŵyres i Simon Lloyd o'r Bala. Anfonwyd Foulkes Jones, yn 13 oed, i'r coleg yn y Bala a oedd wedi ei agor gan Lewis Edwards a David Charles. Yn 1843, penderfynodd fynd yn bregethwr ac aeth am ail dymor i'r Bala, ac yn 1844 i Brifysgol Edinburgh. O 1848 hyd 1853 bu'n genhadwr ar ororau Maldwyn; symudodd i Lerpwl yn 1853; ordeiniwyd ef yn 1856; a symudodd i Gaer yn 1857. Teithiodd ar y Cyfandir ac yn yr Aifft a gwlad Canaan ac yn 1860 cyhoeddodd lyfr, Egypt in its Biblical Relations and Moral Aspects. Priododd, 1861, Margaret, ferch Lewis Jones o Amwythig; cawsant bump o blant. Yn 1863, cymerodd fugeiliaeth eglwys Maengwyn yn ei dref enedigol, a bu farw yno 14 Ebrill 1880. Yr oedd yn bregethwr hynod boblogaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.