Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , EVAN ( 1836 - 1915 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, newyddiadurwr, a gwleidydd ; g. 27 Hydref 1836 , yn Esgair Goch , Pennal , sir Feirionnydd , mab John Jones , genedigol o Faestirau , Darowen , a'i briod Catherine Jervis , genedigol o Lanbrynmair . Yr oedd ei nain, mam ei fam, yn chwaer i Abraham Wood , pregethwr yng nghyfundeb arglwyddes Huntingdon . Ychydig o addysg fore a gafodd; prentisiwyd ef yn argraffydd gydag Adam Evans , Machynlleth , yn 1849 , ac ar ôl hynny bu'n gweithio gyda'i grefft ym Methesda , Arfon ( 1855 ), yng Nghaernarfon ar staff Yr Herald Cymraeg ( 1856 ), ac yng Nghaergybi ( 1857 ). Yng Nghaergybi yr oedd mewn partneriaeth â Lewis Jones [q.v.] , un o sylfaenwyr y Wladfa ym Mhatagonia ; cyhoeddwyd Y Pwnsh Cymraeg o'u swyddfa. Byr fu cysylltiad Evan Jones â'r papur hwnnw, ond arhosodd traddodiad am y cysylltiad hwnnw'n hir. Sefydlodd fusnes argraffu ym Machynlleth yn 1859 , ac yno y dechreuodd bregethu . Aeth i Goleg y Bala yn 1863 ; yn 1867 derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Corris ac Aberllefenni , ac ordeiniwyd ef yn 1869 . Yn ystod ei arhosiad yng Nghorris priododd Jane Elizabeth , merch Robert Jones , y Bala , a bu iddynt un mab a dwy ferch. Bu ei briod farw flynyddoedd o'i flaen. Symudodd i fugeilio eglwys Dyffryn Ardudwy , fel olynydd i'r Parch. Edward Morgan [q.v.] , yn 1872 , ac yn 1875 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Moriah , Caernarfon , lle y bu nes ymneilltuo yn 1906 . Daeth yn arweinydd amlwg yn ei gyfundeb; bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1897 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1898-9 , a chymerodd ran flaenllaw mewn amryw fudiadau, yn arbennig ynglŷn â sefydlu'r llyfrfa , a bu'n olygydd cyffredinol ar gyhoeddiadau'r cyfundeb am flynyddoedd. Yn 1909 ef oedd llywydd Undeb Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr . Daeth i'r amlwg fel gŵr cyhoeddus yn ystod ei amser yng Nghorris trwy'r ddadl a fu rhyngddo â'r canon Evans , ficer Corris ar y pryd, ar fater datgysylltiad, a bu yn un o bennaf lueddwyr yr ymdrech o blaid datgysylltiad ac ar y llwyfan Rhyddfrydol ar hyd ei oes. Bu yn newyddiadurwr diwyd hefyd o'r adeg yr oedd yng Nghorris ac yn ysgrifennu erthyglau Cymraeg i'r Cambrian News yn wythnosol. Cyhoeddwyd detholiad o'r ysgrifau hynny ymhen blynyddoedd yn ddwy gyfrol o Ysgrifau Byrion . Am bedair blynedd o 1872 bu'n olygydd Y Goleuad ; bu'n ysgrifennu erthyglau arweiniol i'r Genedl Gymreig ar y cychwyn; yn Rhagfyr 1882 sefydlodd bapur wythnosol, Yr Amseroedd . Ef oedd y perchennog a'r golygydd , ond tua diwedd 1884 trosglwyddodd y papur i berchennog arall. O 1900 hyd 1905 bu'n golygu 'r Traethodydd , a bu am flynyddoedd yn ysgrifennu bob wythnos i'r Goleuad . Ysgrifennodd ei hunan-gofiant i'r Genedl , 1912-3 . Ar y llwyfan gwleidyddol yr oedd yn ddadleuydd medrus a didosturi, a chanddo feistrolaeth ar watwareg finiog. Fel personoliaeth arbennig, dadleuydd gwleidyddol , a gwleidydd eglwysig y meddyliai'r wlad amdano'n bennaf, ond yr oedd hefyd yn fugail eglwys llafurus a gofalus, ac amdano fel pregethwr dywedodd Puleston Jones mai ‘ pregethwr mawr ydoedd, a mawr iawn .’ Bu f. yng Nghaernarfon 29 Medi 1915 , a chladdwyd ef ym Machynlleth .

Llyfryddiaeth:

  • Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd , 1917 ;
  • Y Goleuad , 8 Hydref 1915 ;
  • Y Geninen . (Gŵyl Dewi), 1916 , 5, 49; Ebrill, 117; Hydref, 246; 1917 , 234.

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon