JONES, EDWARD ('Iorwerth Goes Hir '; 1824 - 1880), bardd, cerddor, a gwleidyddwr

Enw: Edward Jones
Ffugenw: Iorwerth Goes Hir
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1880
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, cerddor, a gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Daniel Bertram Jones

Ganwyd yn Tŷ Cynnes, Llansantffraid, Glyndyfrdwy. Cobler oedd wrth ei alwedigaeth a bardd wrth natur. Ysgrifennodd lawer yn y mesurau caeth a rhydd. Rhagorai fel englynwr a chipiodd y wobr yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth am ei englyn ar 'Chwilen Colorado.' Yr oedd hefyd yn gerddor dawnus ac yn wleidyddwr goleuedig. Yr oedd yn aelod o frawdoliaeth farddol bur adnabyddus yn nyffryn Edeirnion a gynhwysai 'Dewi Havhesp' (teiliwr), 'Rhuddfryn' (saer maen), 'Llew Hiraethog' (amaethwr), 'Elis Wyn o Wyrfai' (rheithor Llangwm), ac eraill. Golygwyd ei farddoniaeth gan 'Rhuddfryn' a chyhoeddwyd hi, gyda rhagair gan Dr. Cernyw Williams, yn swyddfa'r Wythnos, Corwen, 1881. Bu farw 14 Ebrill 1880.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.