JONES, EDWARD (1790 - 1860), gweinidog gyda'r M.C.

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1860
Priod: Mary Jones (née Davies)
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r M.C.
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 11 Medi 1790, mab Edward Jones, Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, Sir Aberteifi, a Mary ei wraig. Addysgwyd ef i fod yn gyfrwywr, ac yn 20 oed aeth i Lundain lle y clywodd John Elias yn pregethu, ac yna i Fryste. Dychwelodd i'w gynefin a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; neilltuwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1829. Rhagorai nid yn gymaint fel pregethwr ag fel addysgwr ac arbenigwr ynglŷn â meddiannau, cyfansoddiad, a disgyblaeth y cyfundeb. Priododd Mary, merch David Davies o Fachynlleth a chwaer Robert Davies; bu farw 29 Awst 1860, a'i gladdu (y cyntaf) ym mynwent newydd Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.