JONES, EDWARD (1782 - 1855), '3ydd,' gweinidog Wesleaidd

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1782
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llantysilio-yn-Iâl yn 1782. Perthynai'n wreiddiol i'r Methodistiaid Calfinaidd, ond troes at y Wesleaid; dechreuodd bregethu yn 1805, ac anfonwyd ef yn genhadwr i Ferthyr Tydfil; efo oedd y pregethwr Wesleaidd Cymraeg cyntaf (1808) i gael ei osod yn Llundain. Teithiodd yn ddyfal bron ar hyd ei oes. Bu farw yn Llanidloes, 22 Gorffennaf 1855, yn 73 oed.

Sgrifennodd lawer i'r Eurgrawn, a bu'n olygydd iddo, 1829-35; cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chyfieithiad, 1833, o bregethau John Wesley. Eithr fel dadleuydd diwinyddol y gwnaeth ei brif enw. Yn 1812, cyfieithodd lyfr Thomas Oliver, Cyflawn Wrthbrawf i'r Athrawiaeth o Barhad Diammodol mewn Gras; yn 1819 cyhoeddodd Amddiffynydd y Gwir, yn ateb i bamffledyn gan John Parry o Gaerlleon Fawr, 1818; ac yn 1829 neu 1830 Lladmerydd - a atebwyd yn bur ffyrnig gan Edward Jones o Faes-y-plwm yn ei Gwialen i Gefn yr Ynfyd, 1831. Bu iddo hefyd ran yn nadleuon mewnol ei gyfundeb - gweler pen. vi o A. H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, ac ymhellach t. 230.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.