Aeth i Lundain tua 1775 dan nawddogaeth boneddigion Cymreig . Daeth i gyswllt â'r Dr. Burney bron ar unwaith, a bu'n athro ar ganu'r delyn i amryw bersonau bonheddig. Apwyntiwyd ef yn delynor i dywysog Cymru ; o tua 1790 ymlaen defnyddiodd y teitl yn gyson hyd 1820 . Ar ôl i'r tywysog ddod yn frenin , dechreuwyd ei alw'n ‘ Fardd y Brenin .’ Trigai yn mhlas S. James o 1805 hyd 1820 yn ‘ The Office of Robes ,’ a daliai swydd o ryw fath yno. Ymwelai â thai gwŷr bonheddig yn Lloegr , a deuai i Gymru yn ystod yr haf. Rhoes fedal i'r canwr gorau gyda'r tannau yn eisteddfod Corwen , 1789 , ac am y casgliad gorau o benillion yn y Bala yr un flwyddyn. Yr oedd yn y ddwy ‘ Orsedd ’ ar Fryn y Briallu , h.y. Primrose Hill , Llundain , yn 1792 . Ef oedd y beirniad ar ganu'r delyn yn eisteddfod Caerfyrddin , 1819 , ac eisteddfod Wrecsam , 1820 .
Cyhoeddodd oddeutu 20 o lyfrau'n cynnwys caneuon gyda'r cyfeiliannau wedi eu trefnu i'r harpsichord, y piano, neu'r delyn, trefniadau o weithiau cyfansoddwyr clasurol ac eilradd, alawon cenedlaethol gydag amrywiadau, a chyfansoddiadau o'i eiddo ei hun ymysg pethau eraill. Cynnwys y Lyric Airs ( 1804 ) draethawd llafurfawr ar gerddoriaeth hynafol Groeg . Ond ei lyfrau pwysig yw'r tair cyfrol: The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards , cyfrol gyntaf, 1784 (ailargraffiad gydag, ychwanegiadau sylweddol, 1794 ), ail gyfrol, The Bardic Museum , 1802 , trydedd gyfrol, Hen Ganiadau Cymru , 1820 .
Ystyrir y trydydd argraffiad, 1808 , o'i waith yn grynhoad cynrychioliadol o'r farddoniaeth Saesneg orau sy'n deillio o darddiad Cymraeg dilys yng nghyfnod y Deffroad Celtaidd . Yr oedd ei Popular Cheshire Melodies , 1798 , yn ymgais gynnar i gofnodi a chyhoeddi alawon Seisnig . Ystyrid ef yn berfformiwr da iawn, a dengys Musical Remains , 1796 , ei allu. Ef oedd y cyntaf i gyhoeddi casgliad amrywiol o hen ‘Benillion.’ Casglodd a chyhoeddodd dros 200 o alawon Cymreig . Meddai gasgliad o lawysgrifau a llyfrau prin.
Gŵr unig, tawedog oedd. Bu f. yn ddiymgeledd 18 Ebrill 1824 , a chladdwyd ef ym mynwent Marylebone .
Tecwyn Ellis, M.A., Caerfyrddin / Llandrillo, Meirionydd