JONES, EDWARD (1749 - 1779), cerddor

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1779
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Dolydd-byrion, ger Cricieth, Sir Gaernarfon. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ' Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,' yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ' Ieuan Gwyllt ' hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y Cerddor Cymreig. Bu farw yn 1779 yn 30 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog, Arfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.