Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , EDWARD ( 1741?ar ôl 1806 ), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Llundain , ac un o ddau gychwynnydd eu hachos yno; ond cafodd fwy o enw am ei ffaeleddau nag am ei rinweddau. Cytunir mai gŵr o Lansannan ydoedd, ac uniaetha D. E. Jenkins ef a'r Edward , fab i John Edwards , Arllwyd , a fedyddiwyd 1 Ebrill 1741 ; cydweddai hyn â'r ‘tua 60 oed’ a roddir i Edward Jones ddechrau 1801 yng nghofnodion y llys barn. Bu'n filwr yn y ‘ Life Guards ’; daeth dan ddylanwad George Whitefield , a chynghorai yn y Tabernacl ; wedi gadael y fyddin, cadwai dafarn , ac yn nes ymlaen yr oedd ganddo fasnach mewn gwirodydd . Nid oes unrhyw awgrym yn erbyn ei fuchedd, ond yr oedd anian unben ynddo; a chan mai ganddo ef yr oedd meddiant capel y Methodistiaid Calfinaidd ( 1785 ) yn Wilderness Row , triniai'r gynulleidfa fel teyrn. Diarddelodd ddwy ferch i Daniel Jenkins (mab-yng-nghyfraith i Daniel Rowland ) am briodi deuddyn ‘o'r byd’; aeth nifer o'i gynulleidfa allan a throi'n Annibynwyr — parodd yr ymrafael gryn drafferth i Thomas Charles a John Elias ac eraill, oblegid ar y naill law yr oedd y ddwy ferch yn ŵyresau i ŵr hybarch yn y cyfundeb, ac ar y llaw arall yr oedd mynych ymweliadau Jones â'r sasiwn (ac, yn wir, ei wasanaeth yn Llundain ) wedi ennill iddo barch yr arweinwyr. Buan yr ychwanegwyd at eu hanniddigrwydd. Bu f. gwraig Edward Jones (y priodolir iddi gryn ddylanwad er da arno), ac addawodd yntau ( 1799 ) briodi merch ifanc 28 oed; ond ar ymweliad â Chymru yn 1800 ymbriododd â gwraig weddw dda ei byd. Symbylodd pleidwyr Daniel Jenkins y ferch i ddwyn achos tor-amod yn erbyn Jones , a bu'n rhaid iddo dalu £ 50 o iawn ( Ionawr 1801 ). Yr oedd eisoes wedi ennyn gelyniaeth Gwyneddigion a Chymreigyddion Llundain (a'i llysenwai'n ‘ Ginshop Jones ’); cyhoeddasant hwythau bamffled yn cynnwys ei lythyrau caru (a ddarllenwyd ar goedd yn y llys), gyda'r gerdd wawdus ‘ Gwenno Fach ’ gan John Jones , Glan-y-gors [q.v.] . Aeth pethau'n waethwaeth yn Wilderness Row , ac ymadawodd y rhan fwyaf o'r aelodau oddi yno i ymgynnull mewn lle arall; bu'n rhaid i'r sasiwn eu cefnogi ac atal Jones rhag pregethu yn enw'r cyfundeb, onid yn wir ei ddiarddel — yn ddiresymeg braidd, cydiodd Glan-y-gors yn y cyfle hwn eto i ymosod ar y Methodistiaid , y tro hwn am ddiarddel Jones am anufudd-dod i'r ‘ Babaeth yn y Bala ’ ( 1802 ). Yn ofer y ceisiodd John Elias ac eraill gael gan Edward Jones roi'r capel i fyny, ond o'r diwedd ( 1806 ) llwyddodd Ebenezer Morris [q.v.] i'w gael allan o'i ddwylo. Dywedir iddo wedyn ddychwelyd i Gymru i fyw; ond nid oes gennym fanylion pellach yn ei gylch.

Llyfryddiaeth:

  • Methodistiaeth Cymru , 1851–6 , iii, 435-41;
  • D. E. Jenkins , Life of Thomas Charles , 1908 , ii, 155, 301-14, 384;
  • Y Cymmrodor , 1951 , 123-4.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor