JONES, DAVID ('Dewi Wyllt '; 1836 - 1878?), cerddor

Enw: David Jones
Ffugenw: Dewi Wyllt
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1878?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym Mallwyd, Sir Feirionnydd. Gwehydd oedd ei dad, a rhoddodd addysg dda i'r mab. Bu ' Dewi Wyllt ' yn canu'r organ yn eglwys Mallwyd, a chyhoeddodd, yn 23 oed, gasgliad o donau dan yr enw Udgorn Seion yn cynnwys 142 o donau; yn eu mysg ceir tonau o waith Ambrose Lloyd, ' Owain Alaw,' ac ' Eos Llechid.' Symudodd y teulu o Mallwyd i dref Caernarfon tua 1859. Prentisiwyd ef yn feddyg gyda Dr. Jones, un o feddygon y dref, a bu yn cynorthwyo meddyg yn Rhuthun; oddi yno aeth yn efrydydd i Glasgow, ac wedi pasio ei arholiad sefydlodd yn feddyg yn yr Wyddgrug, lle y bu byw hyd ei farwolaeth tua'r flwyddyn 1878.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.