JONES, DAVID (1808 - 1854), gweinidog y Bedyddwyr, a golygydd

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1854
Priod: E. Jones (née Thomas)
Rhiant: Esther Jones
Rhiant: Benjamin Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr, a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym Mhenrhiwfach, Llanpumpsaint, 1808, yn fab i Benjamin ac Esther Jones. Codwyd ef i bregethu yn Ebeneser, Blaenafon, ac aeth i Goleg y Fenni yn 20 oed. Ordeiniwyd ef yn weinidog ei fam-eglwys yn 1832, a symudodd i'r Tabernacl, Caerdydd, yng Ngorffennaf 1834. Yno y bu hyd ei farwolaeth ar 8 Tachwedd 1854. Yn ystod ei weinidogaeth ym Mlaenafon priododd E. Thomas, Castell Nedd, a ganed iddynt ddau fab.

Etholwyd ef yn gyd-olygydd Ystorfa Weinidogaethol (wedi hynny Ystorfa y Bedyddwyr) yn 1838, a'r Bedyddiwr yn 1840. Cyhoeddodd Udgorn Jubili Cenhadiaeth y Bedyddwyr, 1844, a Y Drych Blynyddol, 1849. Cyfieithodd Cydymaith y Bibl (d.d.), yn ôl pob tebyg o waith y Parch. Ddr. Romeyn, Efrog Newydd, a golygodd yn 1839 ail argraffiad o Enoch Francis, Gair yn ei Bryd. Priodolir iddo hefyd holwyddoreg poblogaidd. Bu'n ysgrifennydd cymanfa Morgannwg, 1849-54.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.