JONES, DAVID (1793 - 1825), gweinidog yng nghyfundeb yr iarlles Huntingdon, ieithydd medrus, ac un o awduron Principia Hebraica, 1817

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1825
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog yng nghyfundeb yr iarlles Huntingdon, ieithydd medrus, ac un o awduron Principia Hebraica, 1817
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Ganwyd yng Nghwm Creigiau Fach, Sir Gaerfyrddin, 11 Chwefror 1793, yn fab i'r Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Cafodd addysg dda, yn breifat i ddechrau, ac yna yn ysgol David Peter yng Nghaerfyrddin, yn y Coleg Presbyteraidd yn yr un dref, ac yng Ngholeg Cheshunt, Swydd Hertford. Astudiodd Arabeg, Syrieg, a Pherseg yn ogystal â Hebraeg a'r ieithoedd clasurol. Ordeiniwyd ef yn 1814, ac yn 1821, ar ôl bod yn Henffordd am gyfnod, aeth yn weinidog i Abertawe fel olynydd i'r Parch. W. Kemp. Torrodd ei iechyd i lawr, a gorfu iddo dreulio gaeaf 1823-4 yn neheudir Ffrainc; ar ei ffordd adref ymwelodd â Llydaw. Dychwelodd i Lydaw ddiwedd 1824 ar anogaeth y Feibl Gymdeithas, dechreuodd ddysgu Llydaweg ei hunan, a gwnaeth lawer i gael cyfieithiad o'r Testament Newydd i'r iaith honno. Bu farw yn Cheshunt 1 Medi 1825, ychydig wythnosau ar ôl cael ei benodi'n athro clasuron yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.