JONES, DAVID ('Welsh Freeholder '; 1765 - 1816), bargyfreithiwr ac awdur

Enw: David Jones
Ffugenw: Welsh Freeholder
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1816
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Evans

Ganwyd ym Mwlch-y-gwynt, Llanymddyfri. Addysgwyd ef yng Ngholeg Homerton, Llundain, i fod yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Troes at yr Undodiaid, a symud i Goleg Hackney, lle y dewiswyd ef yn nes ymlaen yn athro mewn athroniaeth. Yn 1792 dilynodd y Dr. Priestley fel gweinidog y Tŷ Cwrdd Undodaidd yn Birmingham. Erbyn 1795 yr oedd yn astudio'r gyfraith yn Lincoln's Inn, ac yn 1800 dechreuodd ar ei waith fel bargyfreithiwr yn Llundain ac ar gylchdaith Rhydychen a De Cymru. Graddiodd yng Ngholeg Caius, Caergrawnt, yn 1800. Pleidiai ryddid crefyddol a gwleidyddol, ac o dan y ffugenw ' Welsh Freeholder ' ysgrifennodd gyfres o bamffledi i ateb ymosodiadau Samuel Horsley, esgob Tyddewi : (1) A Letter to the Right Rev. Samuel, Lord Bishop of S. David's, 1791; (2) Thoughts on the Riots at Birmingham, 1791; (3) The Welsh Freeholder's Vindication, etc., 1791; (4) Reasons for Unitarianism, 1792; (5) The Welsh Freeholder's Farewell Epistles, 1794. Bu farw yn 1816.

Diwygiwr yn hytrach na chwyldrowr oedd ef, Chwig a gredai mewn ufuddhau i'r llywodraeth wladol, ond yn bybyr dros ryddid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.