Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , DAVID ( 1708? - 1785 ), o Drefriw , bardd, casglwr llawysgrifau, cyhoeddwr, ac argraffydd . Ychydig a wyddys am ei eni a'i ieuenctid. Rhoddir enw ei dad fel Siôn ap Dafydd yn N.L.W. MSS. 476 a 3107 , ac enw ei fam fel Jane ferch Elizabeth Rowland yn B.M. Add. MS. 14888 , a Jane ferch Dafydd ap Sion yn N.L.W. MS. 3107 . Enw ei wraig oedd Gwen ferch Richard ap Rhys ( N.L.W. MS. 3107 ), ond ni wyddys dyddiad y briodas; ceir yng nghofrestri plwyf Trefriw gofnod am briodas rhwng rhyw David Jones a Gwenna Prichard ar 27 Ionawr 1734-5 .

Fel bardd ysgrifennodd gryn dipyn, ond nid enillodd fri mawr. Ei brif bwysigrwydd yw fel golygydd y flodeugerdd o farddoniaeth a elwir Blodeu Gerdd Cymry, sef Casgliad o Caniadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiwaethaf , 1759 . Golygodd hefyd weithiau fel Histori Nicodemus , 1745 , hen gyfieithiad Cymraeg o'r ‘ Gospel of Nicodemus ,’ Egluryn Rhyfedd , 1750 , a Cydymaith Diddan , 1766 , y ddau olaf yn gasgliadau o farddoniaeth a rhyddiaith. Yr oedd yn ddiwyd iawn hefyd fel casglwr hen lawysgrifau Cymraeg , a cheir ffrwyth ei lafur yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru . Yn ddiweddarach yn ei fywyd daeth gwasg argraffu i'w feddiant, ac ymsefydlodd fel argraffydd yn Nhrefriw . Dechreuodd argraffu yn 1776 , a'r gwaith mawr cyntaf a ddaeth o'i wasg oedd Historia yr Iesu Sanctaidd yn 1776 , cyfieithiad Cymraeg o'r ‘ History of the Holy Jesus ’ gan William Smith . Parhaodd i argraffu hyd ei f., 20 Hydref 1785 .

Llyfryddiaeth:

  • Ifano Jones , A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923. , 1925 ;
  • O. Gaianydd Williams , Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) , Caernarfon, 1907 ;
  • Morris Jones , Hanes Trefriw fel y bu ac fel y mae sef desgrifiad cryno o'r ardal a'r trigolion , Llanrwst, 1879 ;
  • A. O. Evans , ‘ Dafydd Jones , Trefriw,’ yn Journal of the Welsh Bibliographical Society , Awst 1937;
  • G. J. Williams (gol.), Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw . Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Atodiad cyf. 3. rhif. 2., 1943 , cyfres iii, rhif 2, 1943;
  • Cofrestri Esgobaeth Bangor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. yn N.L.W.;
  • J. H. Davies , Catalogue of Additional Manuscripts in the National Library of Wales ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 783, 841, 843, 2039, 3107;
  • Catalogue of Additions to the Manuscripts in the British Museum in the years 1841–1845 , 1850 , 1841-5 .

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth