JONES, DANIEL (1811 - 1861), cenhadwr gyda'r Mormoniaid

Enw: Daniel Jones
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1861
Rhiant: Ruth Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr gyda'r Mormoniaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Williams

Ganwyd 4 Awst 1811, mab Thomas a Ruth Jones, Tan-yr-ogof, Abergele, Yr oedd ei frawd hynaf, John (1801 - 1856), yn adnabyddus iawn fel dadleuwr yn erbyn y Bedyddwyr - gweler Cymru (O.M.E.), xl, 287. Wedi iddo ymfudo i America troes Daniel Jones yn Formon wrth ei fod yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn bad yr oedd ei ofal arno. Yr oedd gyda Joseph Smith noson y 26 Mehefin 1844 pryd y llofruddiwyd y proffwyd hwnnw. Y flwyddyn ddilynol daeth Jones i Gymru yn genhadwr. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan a chyhoeddi yno gyfnodolyn misol, Prophwyd y Jubili . Hwyliodd o Lerpwl, 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o ddychweledigion Cymreig, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau meithion i Salt Lake City - y fintai yn teithio mewn 25 o wagenni â math o do iddynt. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o seintiau Cymreig i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn bennaeth bad ar y Great Salt Lake. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.