JONES, DANIEL (1788 - 1862), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Daniel Jones
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1862
Plentyn: Jane Roberts (née Jones)
Plentyn: Ebenezer Rowland Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghwm-sarn-ddu gerllaw Llanymddyfri, 24 Chwefror 1788. Bedyddiwyd ef, gan Timothy Thomas o Aberduar, yn 1807, a dechreuodd bregethu - daliai i bregethu pan oedd gyda'r milisia. Yr oedd yn un o sylfaenwyr tŷ cwrdd Cwm-sarn-ddu; a phan gorfforwyd eglwys yno, yn 1814, urddwyd ef yn weinidog arni, a gweithredai felly hyd yn oed yn ystod y ddwy flynedd y bu yn academi'r Fenni; ceisiodd hefyd (1817) godi achos yn nhref Llanymddyfri. Yn 1818, ar gais Christmas Evans, aeth i fugeilio eglwys fechan (28) y Bedyddwyr Cymraeg yn Great Crosshall Street, Lerpwl. Bu yno am 25 mlynedd, yn weithgar ac yn llwyddiannus dros ben, gan godi pedair o eglwysi eraill yn Lerpwl, heb sôn am helpu i ailgodi'r achos yng Nghaernarfon. Ond yn 1841 cododd plaid yn ei erbyn, ac yn 1843 aeth i'r Bont-faen, ac oddi yno i'r Felinfoel (1845-1853), eglwys a oedd ar y pryd mewn cyflwr drwg ac a adfywiwyd ganddo. Yn 1853 symudodd i Dongwynlais, lle y bu farw 31 Rhagfyr 1862. Merch iddo oedd Jane, priod William Roberts ('Nefydd'). Yr oedd Daniel Jones yn un o bregethwyr mwyaf ei enwad. Yn y Felinfoel cyhoeddodd gyfrol o'i bregethau, a hefyd lyfr emynau, Crynhodeb o Hymnau Cristionogol (1845).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.