Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , DANIEL ( 1757 - 1821 ), clerigwr Methodistaidd ; g. c. 1757 , brodor, fe dybir, o Lanboidy , sir Gaerfyrddin . Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1781 a'i drwyddedu'n gurad Pencarreg , eithr curad Llanybydder oedd pan ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1782 . Daeth i Radyr , Morgannwg , c. 1785 , a bu'n gurad yno weddill ei oes. Priododd, 1792 , Joan , merch Edmund Williams , Sain Ffagan . Cefnogai'r Methodistiaid , a phregethai yn eu capeli; deuent hwythau i gymuno'n fisol am flynyddoedd i eglwys Radyr . Brodyr iddo oedd HEZEKIAH JONES , curad Methodistaidd Sully a Phorth Ceri , gerllaw'r Barri , a JACOB JONES o'r Hendre , awdur marwnad boblogaidd i ‘ Williams Pantycelyn .’ Bu f. 20 Ionawr 1821 , yn 63 oed yn ôl ei feddfaen, a'i gladdu yn Sain Ffagan .

Llyfryddiaeth:

  • Methodistiaeth Cymru , 1851–6 , iii, 95;
  • D. E. Jenkins , Life of Thomas Charles , 1908 , ii, 136; iii, 328-9.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe