JONES, WILLIAM COLLISTER (1772 - ?), argraffydd yng Nghaer

Enw: William Collister Jones
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: ?
Rhiant: Sarah Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Bedyddiwyd 12 Gorffennaf 1772, mab William a Sarah Jones, Caer. Ceir ef a Thomas Crane yn argraffu llyfrau Cymraeg yng Nghaer o c. 1796 ymlaen. Yn 1798 dechreuasant gyhoeddi llyfrau crefyddol dros Thomas Charles, Bala, a Thomas Jones, Dinbych; cyn diwedd 1798, fodd bynnag, enw W. C. Jones yn unig a geir; e.e. T. Charles, Hanes Fer o For-Daith y Llong Duff. Bu'n argraffu Trysorfa Ysbrydol o 1799 hyd 1802. Prentis yn swyddfa Crane a Jones yng Nghaer oedd y Robert Saunderson a ddechreuodd argraffu dros Thomas Charles a Thomas Jones yn y Bala yn 1803; prentisiaid eraill oedd Thomas Gee a John Broster. Y mae'n debygol i W. C. Jones beidio ag argraffu llyfrau Cymraeg tua'r flwyddyn 1807.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.