JONES, MORRIS CHARLES (1819 - 1893), hynafiaethydd, a chychwynnydd y Powysland Club, Welshpool

Enw: Morris Charles Jones
Dyddiad geni: 1819
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd, a chychwynnydd y Powysland Club, Welshpool
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: John Davies Knatchbull Lloyd

Ganwyd 9 Mai 1819 o hen deulu yn y Trallwng. Bu'n gyfreithiwr yn Lerpwl am flynyddoedd. Yn 1867 paratôdd gylchlythyr a'i anfon at lawer o bobl, ' Proposals for the establishment of the Powysland Club,' a phan ffurfiwyd y gymdeithas efe oedd ei hysgrifennydd cyntaf. Bu'n cyfrannu erthyglau am chwarter canrif i Montgomeryshire Collections, cylchgrawn y gymdeithas; yn eu plith y mae ' The feudal barons of Powys,' ' The territorial divisions of Montgomeryshire,' ' Llanllugan Nunnery,' ' Devolution of the Manors of Arwystli and Cyfeiliog,' ' The Abbey of Ystrad Marchell,' a ' Materials for a History of Welshpool ' (gweler rhestr yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xxvii, ynghyd â nodyn coffa). Yr oedd yn un o sefydlwyr y Powysland Museum. Bu farw yn y Gungrog, Trallwng, 27 Ionawr 1893.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.