JONES, CAIN (fl.1775-95), almanaciwr

Enw: Cain Jones
Plentyn: John Cain Jones
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Evan David Jones

Mab John Edwards ('Sion y Potiau'). Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil, yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 21 Rhagfyr 1740, a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel. Ar farwolaeth Gwilym Howel, yn 1775, ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion. Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn Amwythig, ac eithrio'r olaf yn unig, sef rhifyn 1795, a gyhoeddwyd gan J. Marsh yng Ngwrecsam. Nid oes gofnod am almanac diweddarach ganddo. Yr oedd yn ymhel rhyw gymaint â barddoniaeth, a cheir marwnad o'i waith yn almanac 1783.

Mab iddo oedd

JOHN CAIN JONES (bu farw 1826?)

Ysgrifennai dan yr enw 'Siôn Ceiriog.' Ceir llythyrau gan John Cain Jones yn NLW MS 1891E , penillion ar donau 'Y Mynach Du' a 'Gwel yr Adeilad' yn NLW MS 1817E , salmdonau yn NLW MS 1932E , 'Cerdd hanes rhyw gidwm gwaedlyd o'r Cymdu' yn NLW MS 6729B , a 'Cerdd annerch Mr. Edward Bennion, physygwr,' yn NLW MS 12868B . Dywedir iddo farw yn 1826, a bod ganddo ferch, Leah Evans, yn brydyddes awenyddol yng Nglyn Ceiriog.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.