Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JOHNS , WILLIAM NICHOLAS ( 1834 - 1898 ), argraffydd, hynafiaethydd perchennog newyddiaduron, a golygydd ; g. 20 Ebrill 1834 yn Poole , Dorset . Ymsefydlodd yng Nghasnewydd-ar-Wysg yn 1835 , a sefydlodd The Newport Gazette yn 1857 . Cychwynnodd newyddiadur prynhawnol cyntaf sir FynwyThe Evening Telegraph (y papur newydd prynhawnol dimai cyntaf yn Ne Cymru ) yn 1870 ; cyhoeddodd a golygodd hefyd The Star of Gwent and South Wales Times a'r Evening Star of Gwent . Ysgrifennai erthyglau ar bynciau hynafiaethol a hanesyddol i'w newyddiaduron ac ail-gyhoeddwyd rhai o'r rhain yn llyfrau — Chartist Riots at Newport , 1839 ( 1884 , ail arg. yn 1889 ), Historical Facts and Traditions relating to Newport and Caerleon (chwe rhan, 1880-5 ), History of the Church of S. Gwynllyw , 1891 ; John's Household Almanack and Guide to Local Information , 1857 , 1858 , 1860-70 , 1896 , 1898 , a Newport Directory and Year Book , 1885 . Bu f. 11 Mawrth 1898 yng Nghasnewydd-ar-Wysg .

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

William John Townsend Collins, (1868-1952), Casnewydd