JOHNES, ARTHUR JAMES (1809 - 1871), barnwr llysoedd sirol

Enw: Arthur James Johnes
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1871
Rhiant: Mary Johnes
Rhiant: Edward Johnes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr llysoedd sirol
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganed 4 Chwefror 1809, mab Edward Johnes, Garthmyl, Sir Drefaldwyn, a Mary Jones ei wraig, o Llifior, ac a oedd felly a chysylltiad a theulu Owen o Gefn-hafodau. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Croesoswallt a Choleg Prifysgol Llundain, a galwyd ef yn fargyfreithiwr gan Lincoln's Inn yn 1835. Yn 1847 penodwyd ef yn farnwr llysoedd sirol yng Ngogledd Cymru; cynhwysai ei ranbarth ar un adeg beth o'r De hefyd, ac ymestynnai o Gaergybi i'r Gelli ('Hay'). Ymdaflodd i'w waith yn gydwybodol, ond ni chyfyngodd ei weithgarwch a'i ddiddordeb i'w ddyletswyddau swyddogol.

Ymgyfathrachai â chlerigwyr llengar megis Walter Davies ('Gwallter Mechain'), John Jenkins ('Ifor Ceri'), a Thomas Richards, ac yr oedd yn un o hyrwyddwyr The Cambrian Quarterly Magazine, 1830-3. Yn 1831 enillodd wobr a gynigiwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am draethawd ar yr achosion a barasai ymneilltuad oddi wrth yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru. Ymddangosodd ail argraffiad, wedi ei helaethu, yn 1832, a thrydydd yn 1870. Yn 1834 cyhoeddodd Johnes gyfiethiadau o ran o weithiau Dafydd ap Gwilym.

Cymerodd ran amlwg, ar ddirprwyaethau a thrwy ysgrifau, yn yr ymgyrch (1837 i 1846) yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy a throsglwyddo peth o'u gwaddol er budd esgobaeth newydd Manceinion. Llwyddodd yn hyn o beth. Ymddiddorai hefyd mewn agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus Cymru. Ymddeolodd yn 1870, a bu farw yng Ngarthmyl 23 Gorffennaf 1871. Claddwyd ef ym mynwent Aberriw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.