JOHNS, DAVID (1796 - 1843), cenhadwr ym Madagascar am yn agos i 17 mlynedd dros Gymdeithas Genhadol Llundain

Enw: David Johns
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1843
Priod: Mary Johns (née Thomas)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr ym Madagascar am yn agos i 17 mlynedd dros Gymdeithas Genhadol Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Mab John Jones, Llain, Llanina, Sir Aberteifi. Yr oedd yn aelod yn eglwys yr Annibynwyr yn Penrhiwgaled. Bu dan addysg yn academi Neuaddlwyd, yn seminari'r Drenewydd, ac yn Gosport, ac ordeiniwyd ef i'r maes cenhadol ar 16 Chwefror 1826. Priododd Mary, ferch William Thomas, 1749 - 1809, gweinidog yr Annibynwyr yn y Bala. Aeth â gwasg argraffu a pheiriant nyddu gydag ef i Madagascar, a bu'n cydweithio â David Griffiths a David Jones i sefydlu dros 25 o ysgolion ag ynddynt dros 2,000 o ddisgyblion. Gan weithio yn ddibaid yn erbyn erlid chwerw bu'n helpu gyda chyfieithu'r Beibl; cyfieithodd Taith y Pererin i iaith y Malagasi, paratôdd eiriadur Malagasi-Saesneg, a golygodd nifer o lyfrau; gyda Freeman ysgrifennodd A Narrative of the Persecutions of the Christians in Madagascar, gwaith y cyhoeddwyd ei gnewyllyn yn Gymraeg hefyd.

Dioddefodd galedi enbyd pan oeddid yn difodi Cristnogaeth yn yr ynys. Wedi iddo orfod gadael yr ynys bu'n cynorthwyo'r Cristnogion a erlidid ac yn cadw mewn cysylltiad â hwynt. Wedi iddo gael cyfnod byr o egwyl yn 1839 dychwelodd i'r ynys, lle y bu farw 6 Awst 1843.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.