JOHNS, DAVID (fl. 1569-1586), ficer Llanfair Dyffryn Clwyd.

Enw: David Johns
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ficer
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Garfield Hopkin Hughes

Gwr o Feirion. Yn B.M. MS. 9817, mewn llythyr, geilw ei hun 'David Johns al's ap John ap Hugh ap Howel,' ac yr oedd 'Howel ap Jenkyn o Ynys y Maengwyn,' gwr y bu Tudur Aled yn ei foli, yn hendaid iddo.

Urddwyd ' David ap John' yn ddiacon ar 1 Tachwedd 1569, ac yn offeiriad (' David ap John, alias Johns ') ar y Nadolig 1570. Fe'i penodwyd ('collated') yn offeiriad Llanfair Dyffryn Clwyd ar 22 Medi 1573 (' David John, clk.), a thrachefn ym mis Medi 1586. Penodwyd ei olynydd, John Williams, yn ôl y 'Composition Book NLW MS 1626C (285)', ar 16 Mai 1598, ond yn herwydd afreoleidddra (dal dau blwyf ynghyd), fe'i hailbenodwyd i Lanfair ar 3 Mehefin 1603; yr oedd yn S.T.P., h.y., yn D.D.

Gwelir ei drosiad o 'wersi S. Bernard ' ('Cur mundus militat'), yn fynych yn y llawysgrifau, a'i gyfieithiad ' i vers Ladin saphig ' o hen gerdd a briodolid gynt i Daliesin. Y mae'r ddwy yn ei law ef ei hun yn B.M. Add MS. 14866. Mwy diddorol yw'r cerddi sydd yn y llythyr a anfonodd at David Salysbury, 5 Chwefror 1587 (B.M. MS. 9817), er iddo eu disgrifio fel ' dechrau fy mrydyddwaith llesg.' Bu'n mydryddu rhai o'r salmau hefyd - gweler B.M. MS. 9817 (934), B.M. Add. 14896 (20).

Ei brif lawysgrif yw'r gyfrol fawr chwe llyfr (B.M. Add. MS. 14866) a gyflwynodd i John Williams, Llanfair Dyffryn Clwyd, 12 Mehefin 1587, a dylid sylwi mai gwr o'r un enw oedd ei olynydd yn y fywoliaeth. Y mae'r cyflwyniad yn bwysig fel arwydd o ddysg a diddordeb David Johns, a dylid ei gymharu â rhai o ragymadroddion y cyfnod, megis eiddo Siôn Dafydd Rhys i'w ramadeg yn 1592. Pwysig hefyd yw'r llu nodiadau sydd yn y llawysgrif. Yn Peniarth MS 159 ceir dau gyfieithiad rhyddiaith o'r Lladin o'i waith, 'Gweddi Saint Awgwstin' a 'Dengran gwahaniaeth kristnogion y byd.'

Cymysgwyd ef gan amryw â'r 'Syr' Thomas Jones

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.