JOHN ap JOHN (1625? - 1697), Apostol y Crynwyr yng Nghymru

Enw: John ap John
Dyddiad geni: 1625?
Dyddiad marw: 1697
Priod: Katrin wraig John ap John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Apostol y Crynwyr yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Ambrose Bebb

' Siôn ap Siôn ' y gelwir ef gan Ellis Pugh yn ei Annerch i'r Cymru (1721); ganwyd ym Mhencefn, trefgordd Coed Cristionydd, plwyf Rhiwabon. Yn nyddiau'r Werinlywodraeth ymunodd â'r ' Piwritaniaid ' a dyfod yn aelod o gynulleidfa Morgan Llwyd yng Ngwrecsam. Ar 21 Gorffennaf 1653 aeth gydag un arall, ar ran Morgan Llwyd, i Swarthmore, swydd Lancaster, i gyfarfod â George Fox, y Crynwr. Llwyddodd Fox i argyhoeddi'r ddau, un dros dro, a'r llall, sef John ap John, am ei oes. Dychwelodd at Forgan Llwyd gydag 'adroddiad' a throi ei gefn ar ei athro cyntaf.

O hyn allan, disgybl i George Fox, ac apostol y Crynwyr yng Nghymru ydoedd. Sefydlodd ei 'eglwys' gyntaf ym Mhen-y-cefn, a chenhadu'n ebrwydd yng Ngwrecsam, gan deithio oddi yno i lawr gyda'r gororau, i'r De - i Fynyw ac i Forgannwg, lle y carcharwyd ef fwy nag unwaith. Cymerodd daith gyffelyb yn 1657, yng nghwmni Fox, ac yn cyfeirio'n ôl i'r Gogledd drwy Gaerfyrddin, Aberystwyth, Machynlleth, Dolgellau, a Chaernarfon. Ar y teithiau hyn, ac eraill ar eu hôl, yr oedd yn araf ennill tir, yn enwedig ym Mynwy a Maldwyn a Meirionnydd, a denu disgyblion nid anenwog, megis Richard Davies, Cloddiau Cochion, a Lloydiaid Dolobran. O 1667 ymlaen, bu'n diogelu a threfnu, sefydlu cyfarfodydd misol, cyfarfodydd hanner-blynyddol, ac, yn 1682, y cyfarfod blynyddol. Erbyn 1686 yr oedd yn dechrau tycio peth ym Môn - ' truth hath got some entrance into Anglesey.' Ond, gan drymed yr erledigaeth, aeth rhai cannoedd o'r Crynwyr Cymreig i Pennsylvania o 1681 ymlaen, gan wanychu'r mudiad yma yn enbyd. Bu'n ddiwyd hyd y diwedd. Buasai ei wraig, Katrin, farw yn 1695. Symudodd yntau at ei ferch, gwraig John Mellor, ger Stafford, a marw yno ar 16 Tachwedd 1697.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.