JOB, JOHN THOMAS (1867 - 1938); gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, emynydd, a bardd

Enw: John Thomas Job
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1938
Priod: Catherine Job (née Jones Shaw)
Priod: Etta Job (née Davies)
Rhiant: Mary Job
Rhiant: John Job
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, emynydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Enaf Morrice Job

Ganwyd 21 Mai 1867 ym mhlwyf Llandybie, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bump o blant i John a Mary Job, ac yn nai i Thomas Job, Cynwyl. Yn 1894 priododd Etta Davies, Zenobia House, Ceinewydd; ganwyd tri o blant ond buont farw yn ieuainc. Bu farw ei briod yn 1901. Yn 1915 priododd Catherine Jones Shaw, Ty'ncelyn, Bryneglwys, sir Ddinbych; ganwyd mab a merch o'r briodas hon.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Llandybie ac yn ysgol 'Watcyn Wyn.' Aeth oddi yno i athrofa Trefeca. Derbyniodd y radd M.A. (' honoris causa ') gan Brifysgol Cymru yn 1932. Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nazareth, Aberdâr (1893-8); Carneddi, Bethesda (1898-1917); Pentowr, Abergwaun (1917-38).

Cymerodd ran yn gynnar iawn ym mywyd llenyddol ei fro. Yn yr eisteddfod genedlaethol enillodd y gadair yn 1897, 1903, a 1918, a'r goron yn 1900. Enillodd y gadair yn eisteddfod San Francisco, 1915, hefyd. Cyfrannodd yn gyson i Cymru (O.M.E.), Y Geninen, etc., a chyfrannodd nifer o emynau i lyfr emynau'r Methodistiaid. Cyhoeddodd gyfrol o'i weithiau barddonol - Caniadau Iob.

Bu farw 4 Tachwedd 1938.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.