JEREMY, WALTER DAVID (1825 - 1893), bargyfreithiwr

Enw: Walter David Jeremy
Dyddiad geni: 1825
Dyddiad marw: 1893
Rhiant: John David Jeremy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: John David Jones

Ganwyd yng Nghwmbedw, Pencarreg, 5 Mai 1825, mab hynaf y Parch. John Jeremy. Bu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin (1841-5); Prifysgol Glasgow (1845-8) - graddiodd yn M.A. (1858) gydag anrhydedd yn y clasuron ac athroniaeth. Wedi tymor fel athro teuluol aeth yn weinidog capel Undodwyr Northampton (1851-2). Barnodd yn ddoeth fod ei gymwysterau yn ei dueddu tuag at y gyfraith. Daeth yn ' Bencher ' (Gray's Inn) yn 1887. Ni charai gyhoeddusrwydd, ond bu ei wybodaeth o'r gyfraith o help dirfawr i Anghydffurfiaeth Cymru, yn arbennig trwy ei ddiddordeb yng Ngholeg Caerfyrddin, Coleg Annibynnol y Bala, ac ysgol Dr. Williams, Dolgellau. Gwasanaethodd ar y Dr. Williams's Trust a'r Bwrdd Presbyteraidd. Cyhoeddodd Digest of the Proceedings in Chancery of the Dr. Williams's Trust a History of the Presbyterian Fund and Dr. William's Trust. Bu farw 18 Medi 1893.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.