Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JENKYN , THOMAS WILLIAM ( 1794 - 1858 ), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr ; g. ym Merthyr Tydfil , 1794 , ei dad yn hanfod o Lanymddyfri a'i fam o blwyf Llandeilo Fawr . Yr oedd pedwar o frodyr ei fam yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr . Dechreuodd bregethu yn 1808 yn Soar , Merthyr , ac adnabyddid ef fel y ‘ boy preacher .’ Bu dan addysg yn y Fenni a bu'n cadw ysgol ei hunan am gyfnod yn y Faenor , ger Merthyr . Oherwydd amgylchiadau cyfyng ei rieni gorfu iddo fyned i weithio i waith glo Penydarren . Âi i ysgol nos a dysgodd Saesneg yn ysgol Sul y Wesleaid Saesneg ym Mhontmorlais . Aeth yn genhadwr cartrefol i Ludworth a chafodd beth ysgol yno hefyd.

Trwy garedigrwydd cyfeillion aeth i Goleg Homerton , Llundain , ac arhosodd yno bedair blynedd. Cafodd alwad i eglwys Annibynnol Wem , swydd Amwythig , ac wedi pum mlynedd symudodd i Groesoswallt . Traddododd yno gyfres o ddarlithiau ar yr Iawn a dynnodd gryn sylw, a chyhoeddwyd hwynt yn llyfr a aeth drwy amryw argraffiadau ac un yn Gymraeg . Yn 1834 symudodd i Stafford ; yno cyhoeddodd lyfr ar yr Ysbryd Glân. Oherwydd afiechyd gorfu iddo ymadael oddi yno ac aeth i'r Almaen a daeth yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Halle , lle'r oedd Tholuck a Gesenius yn athrawon . Gwahoddwyd ef i gadair diwinyddiaeth yng Ngholeg Coward , Prifysgol Llundain . Yn 1850 , oherwydd uno'r coleg â cholegau eraill, symudodd i Rochester ac yno y bu hyd ei f. ar 26 Mai 1858 . Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Popular Educator ( Cassell ) a'r Quarterly Review .

Llyfryddiaeth:

  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , i, 607-11.

Awdur:

Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor