JENKINS, LLEWELYN (1810 - 1878), argraffydd a chyhoeddwr

Enw: Llewelyn Jenkins
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Martha Jenkins (née Edmunds)
Rhiant: John Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn 1810 yn bedwerydd mab John Jenkins, Hengoed, Sir Forgannwg, gweinidog ac argraffydd adnabyddus gyda'r Bedyddwyr, a Martha Jenkins. Dechreuodd ei yrfa fel argraffydd gyda'i dad, yn gyntaf ym Merthyr Tydfil, ac yna ym Maesycymer, sir Fynwy. Trosglwyddwyd y wasg iddo ef a'i frawd John yn 1831, ar symud ohonynt i Gaerdydd, a phan ymadawodd ei frawd yn 1834 i fod yn genhadwr, cymerodd ef y wasg trosodd ei hun. Yr oedd yn amlwg iawn fel argraffydd a chyhoeddwr cyfnodolion y Bedyddwyr, yn eu plith Greal y Bedyddwyr, Ystorfa y Bedyddwyr, Y Bedyddiwr, Y Gwir Fedyddiwr . Efe hefyd a fu'n gyfrifol am gyhoeddi llawlyfr i'r Bedyddwyr yn 1843 a 1844. Gwerthwyd y wasg ym Mehefin 1844, ac ymneilltuodd ef i fyw yn Bryngwyn, Pontnewydd. Yr oedd yn gyd-awdur Cofiant Thomas Morris … Casnewydd or Wysg, 1847, a chofiant o'i dad, Hanes … John Jenkins, … Hengoed , 1859. Yn 1861 ymddangosodd ei Hengoediana … Hanes Eglwys y Bedyddwyr yn Hengoed … hyd 1860 .

Yr oedd yn ŵr amlwg ymysg y Bedyddwyr fel pregethwr a swyddog. Bu am rai blynyddoedd yn ysgrifennydd cronfa adeiladu'r Bedyddwyr yng Nghymru ac yn llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1816. Bu farw 19 Medi 1878.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.