Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JENKINS , JOSEPH ( 1859 - 1929 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; g. yn Nhan-y-cwarel , Cwmystwyth , 27 Hydref 1861 . Enwau ei rieni oedd John a Mary Jenkins . Yn ifanc aeth yn brentis dilledydd at John Lloyd , Pentre , Rhondda ; ymaelododd yn Nazareth , ac yno y dechreuod bregethu . Addysgwyd ef yn ysgol William James , Canton , Caerdydd , academi Pontypridd , a Choleg Trefeca . Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Aberystwyth , 1887 . Bugeiliodd eglwysi Caerffili , Spellow Lane (S.) , Lerpwl , Ceinewydd , Salem ( Dolgellau ), Garregddu ( Ffestiniog ), a Llanymddyfri . Bu f. 27 Ebrill 1929 , a chladdwyd ef ym mynwent capel Cwmystwyth . Yr oedd yn gyfrwng amlwg yn niwygiad 1904-5 . Llosgfynydd o bregethwr ydoedd — ar adegau yn ddi-fywyd, ac ar adegau yn hylif eirias; fel personoliaeth a phregethwr yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun.

Llyfryddiaeth:

  • Y Drysorfa , Gorffennaf 1929 ;
  • gwybodaeth gan aelodau o'i deulu.

Awdur:

Y Parch. Robert Morton Stanley Ellis, (1898-1966), Tycroes

Atodiadau a chywiriadau:

JENKINS , JOSEPH ( Bywg. , 411) Y mae dyddiad ei eni'n anghywir. Yn ôl rhestr bedyddiadau capel Cwmystwyth , g. 2 Tachwedd 1859 (nid 1861 ); cofrestrwyd yn Llanbedr-pont-Steffan , 3 Rhagfyr 1859 . Ei dad oedd John Jenkins , mwynwr plwm , a'i fam oedd Mary , gynt Howells ; y cartref oedd Tan-y-chwarel (y Parch. Elwyn Pryse , Llanrhaeadr-ym-Mochnant — a godwyd yng Nghwmystwyth ac a gopïodd y cofnodion hyn).