JENKINS, JOHN (1821 - 1896) golygydd a chyfieithydd, Llanidloes

Enw: John Jenkins
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1896
Rhiant: Edward Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd ym mis Tachwedd yn fab i Edward Jenkins, gwneuthurwr gwlanen. Addysgwyd ef yn Amwythig ac yna aeth i'w hyfforddi at John Owen, cyfreithiwr, y Drenewydd. Yn 1842 dychwelodd i Lanidloes ac ymsefydlodd yno. Daliodd nifer o swyddi cyfreithiol a hefyd swyddi ynglŷn â llywodraeth leol ac addysg.

Ymhlith y pamffledi a gyhoeddwyd ganddo ceir Law Reform, 1845; National Education, 1848; The Laws Relating to Religious Liberty, 1880; The Laws Concerning Religious Worship, 1885. Ymddangosodd ei draethawd, ' The Feudal System ' yn ail argraffiad Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, Translated into English, with Notes gan Ieuan Brydydd Hir (Llanidloes, O. Mills 1862). Yn 1873 cyhoeddodd ei gyfieithiadau o farddoniaeth Cymru, The Poetry of Wales (Llanidloes, J. Pryse).

Bu farw 22 Chwefror 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.