Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JENKINS , JOHN , Hengoed ( 1779 - 1853 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Neilltuol, diwinydd, golygydd a chyhoeddwr ; g. 28 Tachwedd 1779 ym mhlwyf Llangynidr , sir Frycheiniog , mab Jenkin a Mary Jenkins . Ni chafodd addysg ond ysgol nos ‘ am dymor byr ’ a dysgodd ei hunan i ddarllen a sgrifennu. Dechreuodd bregethu yn 1800 ac ordeiniwyd ef yn Llangynidr , Mai 1806 . Yn 1809 fe'i sefydlwyd yn Hengoed , Morgannwg , ac yno y treuliodd weddill ei oes gan deithio Cymru i genhadu a gwerthu ei lyfrau . Yn 1811 ymddangosodd ei gyfrol bwysicaf, sef Gwelediad y Palas Arian (ail arg. 1820 , 3ydd 1864 ) yn cynnwys corff o ddiwinyddiaeth ‘ i osod allan gadernid yr eglwys efangylaidd ’ [ sic ]. Yn 1815 , gyda Thomas Williams (‘ Gwilym Morgannwg ’) , cychwynnodd Y Parthsyllydd; neu Eirlyfr Daearyddol , a rhwng 1819 ac 1831 cyhoeddodd rifynnau ei Esponiad llafurfawr o'r holl Feibl , esboniad ‘ yn lan oddi wrth syniadau dieithr a dychmygion gwylltion. ’ Yr un adeg cafwyd ei Traethawd ar Fedydd , 1819 , a'i Catecism Byr , 1820 , a chasglodd ‘ Lyfr Hymnau ’ tua 1824 . O'r wasg a bwrcasai yn 1819 y cyhoeddodd Jenkins a'i feibion yr Esponiad a chylchgronau (gan olygu rhai) fel Cyfrinach y Bedyddwyr (am 1827 ), Greal y Bedyddwyr (am 1833-7 ), Ystorfa y Bedyddwyr (am 1838-41 ), Y Gwir Fedyddiwr (am 1842-3 ), Y Bedyddiwr (am 1844 ) ynghyd â llyfrynnau i'r ysgol Sul. Yn feirniad parod yn y cylchgronau ar athrofa'r Bedyddwyr yn y Fenni , bu'n fwyaf amlwg fel ‘ uwch Galfiniad ’ a wrth-ddadleuai yn erbyn Ffwleriaeth . Priododd, 1801 , Martha Edmunds ( 1769 - 1830 ) ac o'r plant bu TITUS JENKINS ( 1804 - 1834 ) yn weinidog y Bedyddwyr yn Ramsey , Huntingdon ; aeth JOHN JENKINS ( 1807 - 1872 ) yn genhadwr i Lydaw ; a bu Llewelyn Jenkins ( 1810 - 1878 ) [q.v.] yn gymwynaswr i'r Wasg Gymraeg fel cyhoeddwr , golygydd , ac awdur . Priododd eu tad ddwywaith wedyn. Bu f. 5 Mehefin 1853 a chladdwyd ef ym mynwent capel Hengoed .

Llyfryddiaeth:

  • John Jenkins a Ll. Jenkins , Hanes buchedd a gweithiau awdurol y diweddar John Jenkins D. D., Hengoed , 1859 , 1859 ;
  • Cofiant y Parchedig John Jones, Talysarn , Efrog Newydd, 1868 , i, 471-91;
  • Seren Gomer , 1822-3 , 1828 , 1839-44 ;
  • Cyfrinach y Bedyddwyr , Maesycwmmer , 1827 ;
  • Greal y Bedyddwyr , 1827–37 , 1835 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 .

Awdur:

Y Parch. Athro James Mansel John, (1910-75), Trefdraeth / Caerdydd