JENKINS, JABEZ EDMUND ('Creidiol'; 1840 - 1903), clerigwr a bardd

Enw: Jabez Edmund Jenkins
Ffugenw: Creidiol
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1903
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yng Ngelligroes, ym mhlwyf Mynyddislwyn, sir Fynwy, 24 Rhagfyr 1840, a bedyddiwyd ef 16 Gorffennaf 1858, gan weinidog capel yr Annibynwyr ym Mynyddislwyn. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 25 Chwefror 1872, cafodd guradiaeth Llanedi, Sir Gaerfyrddin; ar 24 Chwefror 1877 ordeiniwyd ef yn offeiriad gyda theitl i Lanfihangel Cwmdu, sir Frycheiniog. Trwyddedwyd ef i guradiaeth y Faenor ym Mrycheiniog, 17 Ebrill 1879, penodwyd ef yn offeiriad y plwyf hwnnw 16 Mai 1883, a bu yno hyd ei farwolaeth ar 4 Mehefin 1903.

Yn y Faenor cymerodd ran amlwg ym mywyd y lle, a bu'n aelod o amryw bŵyllgorau fel bwrdd yr heolydd a'r cyngor lleol. Yr oedd yn eisteddfodwr brwdfrydig, a than yr enw barddol 'Creidiol' cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Dyddanion Min yr Hwyr, sef Rhiangerdd Emma Prys, yn 1862, Egin Awen, yn cynnwys awdlau, cywyddau … , yn 1867, a Rhiangerdd - Gwenfron o'r Dyffryn, yn 1868. Golygodd flodeugerdd o farddoniaeth, Gardd y Beirdd; gan Ugain o Feirdd Cymru, yn 1869, ac yn 1897 ymddangosodd ei Vaynor, its History and Guide.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.