JEFFREYS, JOHN GWYN (1809 - 1885), awdurdod ar gregyn

Enw: John Gwyn Jeffreys
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1885
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdurdod ar gregyn
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 18 Ionawr 1809 yn Abertawe, o deulu o gyfreithwyr o hil gerdd, ac addysgwyd yn ysgol ramadeg Abertawe. Dygwyd yntau i fyny'n gyfreithiwr, ond yr oedd er yn fachgen wedi ymddiddori mewn cregyn, a chyhoeddi papur gwyddonol ar y pwnc pan nad oedd ond 19 oed. Gan fod ganddo bartner da yn ei fusnes cyfreithiol, gallodd gysegru mwyfwy o'i amser a'i sylw i'w ymchwil, a phrynu llong i'w alluogi i ysgubo llawr y môr. Symudodd i Lundain yn 1856, yn fargyfreithiwr, ond yn 1866 ymddeolodd yn gyfan gwbl o'r gyfraith. Yn y cyfamser, yr oedd wedi dechrau cyhoeddi llyfr safonol ar gregyn Prydain - daeth y gyfrol gyntaf allan yn 1862, a'r bumed (a'r olaf) yn 1869. Wedi hyn, dechreuodd ysgubo mewn dyfnderoedd na chredid hyd yn hynny ei bod hi'n bosibl cael atynt; yn y modd hwn chwanegwyd llawer iawn at ein gwybodaeth o gregyn, yn 1869, 1870, a 1880. Bu farw (yn ddisymwth) 24 Ionawr 1885, yn Llundain. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1840, a chafodd radd LL.D. gan Brifysgol S. Andrews.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.