JARDINE, DAVID (1732 - 1766), gweinidog Annibynnol ac athro academi

Enw: David Jardine
Dyddiad geni: 1732
Dyddiad marw: 1766
Rhiant: James Jardine
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro academi
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Ninbych, mab James Jardine. Bu'n fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, 1752-4. Urddwyd ef yn y Fenni, 1754, a chychwynnodd ysgol yno. Oherwydd ymrafael ar gwestiwn athrawiaeth a ddysgid yn athrofa Caerfyrddin gwrthododd y Bwrdd Cynulleidfaol (Llundain) roddi cymorth ariannol tuag ati; cymeradwywyd David Jardine i fod yn athro yr academi yng Nghymru, 27 Chwefror 1757, a phenodwyd ef yn bennaeth yr academi newydd yn y Fenni, 7 Mawrth 1757, a Benjamin Davies yn gynorthwywr iddo. Parhaodd Jardine yn weinidog yr eglwys yn y Fenni ac yn bennaeth yr academi hyd ei farwolaeth, 1 Hydref 1766. Priododd ferch y Parch. Lewis Jones, Penybont-ar-Ogwr. Yr oedd yn athro rhagorol a daeth amryw o'i fyfyrwyr yn oleuadau mawr ymhlith yr Annibynwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.