Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES , THOMAS (bu f. 1751 ), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; gelwir ef weithiau'n ‘ Thomas James , Llanfair-ym-Muellt ,’ ond gan amlaf yn ‘ Thomas James , Cerrig-cadarn ,’ ac yn sicr dyna oedd ei gartref yn 1744 , pan gyfeiria Richard Tibbott at ‘dŷ Thomas James yn Errwd .’ Dechreuodd gynghori yn 1741 — hyd yn hynny, ni wyddys ddim amdano. Yn sasiwn Watford , Ionawr 1743 , penodwyd ef yn gynghorwr teithiol , ac yn sasiwn Ebrill yno, rhoddwyd iddo arolygiaeth seiadau ar lannau Gwy ; gwelir rhai o'i adroddiadau arnynt yn Meth. Cymru , i, 165; iii, 315, 331. Cyfeiria Howel Harris ato'n fynych yn ei ddyddlyfrau, ac y mae yng nghasgliad Trefeca ( Ll.G.C. ) 10 o lythyrau oddi wrth Thomas James at Harris , heblaw un at Ann Williams ( Harris ) ac un at George Whitefield , a 17 o lythyrau gan Harris at Thomas James , heblaw un gan Ann Williams ato; ymestyn yr ohebiaeth o fis Medi 1741 hyd ddiwedd Ebrill 1749 . Yn yr ymraniad ( 1750 ) ochrodd Thomas James â Rowland ( Bennett , Meth. Trefaldwyn Uchaf , 182), ond ychydig wedyn cawn ef yn perthyn i'r blaid fechan a elwid yn ‘ bobl Buallt ,’ y gellid meddwl fod y brodyr Relly [q.v.] hefyd ynddi ( Bennett , op. cit., 187). Ddechrau Gorffennaf 1751 clywodd Harris am f. Thomas James ( Bennett , op. cit., 196).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor