Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES , JOHN ( 1777 - 1848 ), gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd ; g. yn Aberystwyth 29 Awst 1777 , yn blentyn hynaf o wyth i James David John ac Elizabeth Jones . Bedyddiwyd ef yno 27 Mawrth 1796 , ac ymaelododd yn eglwys Bethel . Prentisiwyd ef, fel ei dad, yn grydd , ond ym Medi 1799 , dechreuodd bregethu , ac wedi cwrs o addysg yn Aberteifi ac Aberystwyth fe'i hordeiniwyd yn gyd-weinidog â Samuel Breeze [q.v.] ar Bethel a'i changhennau. Wedi cyfnod o weithgarwch anghyffredin yn y dref a'r ardaloedd o gwmpas, symudodd, ym Mawrth 1817 , i Bont-rhyd-yr-ynn , sir Fynwy , ac oddi yno, ym Mai 1827 , i Benybont , Morgannwg , lle y bu f. 30 Ionawr 1848 . Ar 30 Medi 1804 priododd Catherine Davies , un o'r aelodau ym Methel , a ganed iddynt dri o blant.

Dysgodd hefyd y grefft o rwymo llyfrau , ac ym Mai 1808 , wedi cwrs o bedwar mis yng Nghaerfyrddin , agorodd siop lyfrau . Ym Mai 1809 , sefydlodd wasg argraffu yn ei dŷ yn Heol y Bont , Aberystwyth — y wasg gyntaf yn y dre, ond ni wyddai ddim am argraffu, a chafodd gymaint o golled nes gorfod iddo, ym Medi 1812 , werthu ei ran o'r fusnes i'w bartner. Menter bennaf y wasg oedd cyhoeddi yn 1811 Pigion o Hymnau o'i waith ef ei hun.

Cyhoeddodd hefyd Etholedigaeth wedi ei Hystyried mewn Pregeth ( Caerfyrddin , 1808 ), a Hanes Cymdeithas Llundain er Taeniad Cristianogrwydd y’mhlith yr Iuddewon ( Aberystwyth , 1811 ). Cadwyd pregethau, llyfr cofnodion, a phethau eraill o'i eiddo yn N.L.W. MS. 692 .

Llyfryddiaeth:

  • John Evans (Pontfaen), Cofiant y diweddar Barch. John James, gweinidog y Bedyddwyr yn Mhenybont-ar-Ogwy, ac ysgrifenydd y gymanfa y perthynai iddi dros ugain mlynedd yn cynwys hanes ei fywyd, ei lafur, ei lwyddiant, ei nodweddiadau, ei farwolaeth, &c., ynghyd â rhai o'i bregethau , Caerdydd, 1849 , 1849 ;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru , 1893–1907 , iii. 391, 399;
  • Ifano Jones , A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923. , 1925 , 202-4.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth