JAMES, JOHN (Ioan ap Iago'), emynydd a bardd o ail hanner y 18fed ganrif a dechrau y 19eg

Enw: John James
Ffugenw: Ioan ap Iago
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Daniel Evans

nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni na'i farw. Trigai yn ardal Cilycwm, Llanymddyfri. Saer coed ydoedd. Ni chafodd addysg, ond trwy ei ymdrechion personol daeth yn ysgolhaig da. Cymerai ddiddordeb mewn hanes, gwleidyddiaeth, a barddoniaeth. Daeth at grefydd yn ieuanc, bu'n aelod yn Soar (Methodistiaid Calfinaidd), Cilycwm, am 46 mlynedd, ac yn flaenor yno am 25 mlynedd. ' Jacki Siams ' y gelwid ef yn yr ardal. Daeth yn fardd pur enwog yn ei ddydd a chyfansoddodd amryw o emynau. Wedi ei farw cyhoeddwyd llyfryn o'i waith gan J. Jones, Llanymddyfri, yn 1828, Ehediadau Barddonol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.