JAMES, IVOR (1840? - 1909), cofrestrydd cyntaf Prifysgol Cymru, a hanesydd

Enw: Ivor James
Dyddiad geni: 1840?
Dyddiad marw: 1909
Priod: Margaret Elborough James (née Pruen)
Rhiant: Mary James (née Arnold)
Rhiant: Robert James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cofrestrydd cyntaf Prifysgol Cymru, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: William Llewelyn Davies, Prys Morgan

Ganwyd Ivor James, neu IVOR BARNOLD ROBERT JAMES, fel y gelwai ei hun, 21 Medi 1840, yn 'Britannia', ym mhentref Rock, ym mhlwy Bedwellte, Sir Fynwy, yn fab i Robert James a Mary (Arnold) ei wraig. Ar ochr ei fam, felly, yr oedd iddo gysylltiad â theulu Arnold Llanddewi Nant Hodni a Chwrt Llanfihangel. Symudodd y teulu i Lansamlet lle y bu'r tad yn ysgolfeistr. Bu Ivor James yn newyddiadurwr yn Llundain am gyfnod a chymerai ddiddordeb hefyd mewn darllen dogfennau yn yr Amgueddfa Brydeinig cyn iddo fynd i Queens' College, Gaergrawnt; bu hefyd yn astudio'r gyfraith ac, ar un adeg, yn ystyried cymryd urddau eglwysig. Priododd tua 1870 â Margaret Elborough Pruen, merch Dr. Henry Pruen, rheithor Ashchurch, swydd Caerloyw.

Yr oedd wedi ymsefydlu yn Abertawe erbyn yr adeg pan oedd y mudiad i sefydlu coleg prifathrofaol i wasnaethu Deheudir Cymru a Mynwy ar droed. Gweithiodd ef yn ddygn dros gael gosod y coleg hwnnw yn Abertawe, a phan bennwyd ar Gaerdydd mynnodd y rhai a fu'n gweithio dros Gaerdydd gael James yn gofrestrydd cyntaf y coleg newydd - gwelent fod ganddo dalent arbennig ar gyfer gwaith o'r fath. O hynny ymlaen, sef o 1883, gweithiodd yn galed dros y sefydliad newydd, gan lwyddo i drefnu bod llyfrgell fawr Enoch R. G. Salisbury, yn cynnwys llyfrau yn delio â Chymru a'r gororau, yn dyfod yn eiddo i Goleg Caerdydd. Yn y cyfamser bu ef a W. Cadwaladr Davies, cofrestrydd coleg newydd Bangor, yn gydysgrifenyddion y pwyllgor a oedd yn trefnu i gael siarter i Brifysgol Cymru, a phan sefydlwyd y brifysgol daeth James yn gofrestrydd cyntaf iddi (Mawrth 1895) a dal y swydd hyd oni ymddeolodd yn 1906.

Trwy gydol ei oes - yn Llundain, Abertawe, a Chaerdydd - rhoes James lawer o sylw i rai agweddau ar lenyddiaeth Lloegr ac yn arbennig hanes Cymru yn yr 16eg ganrif a'r 17eg. Yr oedd greddf y gwir ymchwilydd ynddo, a threuliodd lawer o'i amser yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r Public Record Office. Credai ef mai Cymro, sef y capten Thomas James y ceir ei hanes yn y D.N.B., oedd arwr 'The Ancient Mariner' (S. T. Coleridge), a chyhoeddodd lyfryn (Cardiff, 1890) o'r enw The Source of the Ancient Mariner. Ysgrifennodd i'r Traethodydd 1886, ac y mae ganddo bedair erthygl ar Maurice Kyffin yn Wales (gol. O. M. Edwards), 1894 a 1895. Rhoesai sylw arbennig i gyflwr yr iaith Gymraeg a chyhoeddi, 1887, pamffledyn, The Welsh Language in the 16th and 17th Centuries. Ceir syniad gweddol glir am ei wahanol ddiddordebau Cymreig a Seisnig os astudir y llawysgrifau a restrir isod. Bu farw 13 Ebrill 1909 yng Nghaerdydd yn 69 oed.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.