JAMES, ISAAC (1766 - 1840), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Isaac James
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1840
Rhiant: Richard James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd naill ai ym mhlwyf Lledrod neu ym mhlwyf Llanilar, yn fab i Richard James (ar hwn, gweler Methodistiaeth Cymru, ii, 56-7); crydd wrth ei grefft. Wedi priodi, yn llanc 17, aeth i fyw i Ben-y-garn, a dechreuodd bregethu. Dyn od, a'i bregethau a'i weddïau'n llawn o ymadroddion trawiadol, a fawrygid gan wŷr fel Ebenezer Richard ac Evan Harris a Richard Jones o'r Wern - a chan Henry Rees, a ddywedodd amdano: 'nid oedd llawer yn ei ystyried yn bregethwr mawr, ond un mawr oedd o er hynny.' Bu farw 14 Ebrill 1840, yn 74 oed; claddwyd yn Llanfihangel-genau'r-glyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.