JAMES, DAVID (1787 - 1862), cerddor

Enw: David James
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1862
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1787, a dygwyd ef i fyny gan ei fodryb ym Mhenrallt, Pont Saison, ger Brynberian, Sir Benfro. Cafodd dri mis o ysgol yn blentyn, a thrwy hunan-ddiwylliant daeth yn rhifyddwr da, a thipyn o seryddwr. Dafydd Siencyn Morgan a roddodd iddo ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth. Galwyd ef yn 1804 i Hwlffordd i fynd dan ddisgyblaeth filwrol, a chafodd gyfarwyddyd a gwersi mewn cerddoriaeth gan arweinydd seindorf y cartreflu, a daeth yn gerddor lled dda. Ffurfiodd gôr ym Mrynberian, a dosbarth i ddysgu egwyddorion cerddoriaeth. Cyfansoddodd amryw donau; ceir ' Myfyrdawd ' yn yr Efangylydd, Mawrth 1833.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.