Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES , DANIEL (‘ Gwyrosydd ’; 1847 - 1920 ), bardd ;

g. yn Nhreboeth , Abertawe , 23 Ionawr 1848, yn fab i Daniel James, saer maen, a'i wraig Mary (Morgan). Yr oedd ei rieni yn aelodau yn hen eglwys Mynyddbach , lle y canodd ‘ Gwyrosydd ’ lawer amdano. Collodd ei dad yn ifanc ac aeth i weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforus i helpu magu'r plant eraill. Yna gweithiodd am flynyddoedd yng ngwaith alcam Glandwr . Trwythodd ei hun yn Ysgol Farddol ac Ysgol Gymreig Dafydd Morgannwg .’ Ei enw barddol cyntaf oedd ‘ Dafydd Mynyddbach ,’ ond ar awgrym Dafydd Morgannwg fe'i newidiodd i ‘ Gwyrosydd .’ Daeth yn enwog fel telynegydd a chyfansoddwr darnau adrodd poblogaidd yn eu dydd, megis ‘ Ymson y Llofrudd ,’ ‘ Ble aeth yr Amen ?’ ac yn ddiweddarach, ‘ Fy hen siwt waith ’ ac ‘ Y Gog ac Adar Cymru .’ Bu'n cynnal dosbarthiadau gramadeg Cymraeg yn yr ardaloedd lle bu'n byw. Pan oedd yn ganol oed, caeodd gwaith Glandwr , ac aeth ‘ Gwyrosydd ’ i Dredegar a Dowlais , ac yna i Flaengarw erbyn 1891 , lle y cafodd waith pwyso a thrafod glo ar ben pwll . Daeth yn gyfeillgar â Glyndwr Richards , arweinydd canu , ac fe'i dilynnodd i Aberpennar , lle bu ‘ Gwyrosydd ’ fyw 20 mlynedd, gan weithio 15 ohonynt yn un o byllau Nixon , ac, ar ôl i'w iechyd wanhau, am bum mlynedd dan y cyngor lleol. Yn 1918 dychwelodd i Dreforus at ei ferch a'i fab yng nghyfraith, ac yno y bu f. ar 11 Mawrth 1920 , a'i gladdu ym Mynyddbach . Dadorchuddiwyd tabled efydd iddo yn neuadd gyhoeddus Treboeth yn 1936 . Priododd ddwywaith, ag Ann Hopkin, ac yna â gwraig weddw, Gwenllian Parry (gynt Morgan), yn Abertawe yn 1888. Bu hi farw yn 1895. Gadawodd Gwyrosydd ddau fab a dwy ferch ar ei ôl.

Cyhoeddodd lawer o farddoniaeth mewn cylchgronau a phapurau newydd (e.e. Y Darian ), ac yr oedd yn boblogaidd am ei naturioldeb sionc a'i delynegrwydd ysgafn. Cyhoeddwyd Caneuon Gwyrosydd ( Plasmarl , 1885 ), a'r ‘ail lyfr,’ sef Caniadau Gwyrosydd ( Cwmafan , 1892 ). Yn yr ail y ceir ‘ Calon Lân ,’ ei ddarn enwocaf, emyn y bu llawer o ganu arno yn ystod y diwygiad ( 1904-5 ), a byth er hynny. Cafwyd argraffiadau newydd o'r ddau lyfr gan yr Educational Publishing Co. , Caerdydd , yn 1909 . Ymddangosasai Aeron Awen Gwyrosydd yn Aberpennar yn 1898 , ac ar ôl ei farw gwnaed casgliad newydd o'i waith gan Gymdeithas y Mabinogion , Abertawe .

Ffynonellau:

  • O. T. Hopkins yn Y Darian , Gorffennaf-Awst 1918 ;
  • ‘Awstin’ yn Cambria Daily Leader , 12 Mawrth 1920 ;
  • South Wales Weekly Post , 20 Chwefror 1920 ;
  • ‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 .

Awduron:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban

Clive Blakemore

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54