JAMES, ANGHARAD (fl. 1680?-1730?), prydyddes

Enw: Angharad James
Priod: William Prichard
Plentyn: Dafydd Wiliam Prichard
Plentyn: Margaret Prichard
Plentyn: Catherine Prichard
Plentyn: Gwen Prichard
Rhiant: Angharad Davies (née Humphreys)
Rhiant: James Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: prydyddes
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Roedd yn byw yn y Parlwr, Penanmaen, Dolwyddelan. Rhoddir peth o'i hanes gan Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn, pen. 1. Yno dywedir mai merch oedd hi i James Davies ac Angharad Humphreys, Gelli Ffrydau, Llandwrog, Sir Gaernarfon, ei bod hi'n 20 oed pan briodwyd hi â William Prichard, a oedd yn 60 mlwydd oed ar y pryd, iddi gael addysg dda a dyfod yn hyddysg yn yr iaith Ladin, ei bod yn fedrus gyda'r delyn, ac yn prydyddu.

Yr oedd John Jones, Talsarn, yn or-ŵyr iddi hi a'i gŵr trwy eu merch ieuengaf, Catherine, ac yn or-or-ŵyr trwy eu merch hynaf, sef Gwen.

Cadwyd peth o'i gwaith mewn llawysgrifau. Dyma esiamplau: cerdd yn dechrau ' Och alar o choeliwch och golli diddanwch ' (' Angharad James a'i canodd rhyngthi ai gwr William Prichard y fl. 1718 '); un arall, ' Ymddiddan rhwng dwy chwaer, un yn dewis gwr oedrannus a'r llall yn dewis ieuenctid ' (' Angharad James a'i canodd o'r ymddiddan a fu rhyngthi a'i chwaer Margared James '); dau bennill - ' Pan oeddid yn bygwth Wm. Prichard o Ben-An-maen o Ddôl Gwyddelan a chyfraith, ebre ei wraig yn y flwyddyn 1717. '

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.