Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ISHMAEL ( ISFAEL ) ( fl. 6ed g. ) sant . Haedda sylw oherwydd ei gysylltiadau clos â chyfoeswyr mwy enwog. Dywedir fod Teilo yn ewythr iddo a Tyfei ac Oudoceus yn frodyr. Ymddengys hefyd ymhlith disgyblion Dewi Sant ; yn ‘ Llyfr Llandaf ' dywedir mai ef a ddilynodd y sant hwnnw yn Nhyddewi . Yn Nyfed yn unig y coffeir ei barch; gydag un eithriad, yn sir Benfro yn unig y ceir eglwysi ar ei enw; yn wir, dywed traddodiad i'w dad, Buddig , tywysog Llydewig , fyw am gyfnod yn alltud yn Nyfed lle y priododd Anauved , chwaer Teilo .

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , V, iii, 323.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth