Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ISAAC , EVAN ( 1865 - 1938 ), gweinidog Wesleaidd ; g. 18 Mehefin 1865 , yn Nhaliesin , Ceredigion . Wedi ych'dig addysg yn ysgol y pentref dechreuodd weithio mewn gwaith mwyn lleol yn 10 oed. Yna aeth i lofeydd y De, a bu'n gweithio yno am flynyddoedd. Dechreuodd bregethu pan oedd yn löwr yn Aberpennar . Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1888 , a bu yng Ngholeg Handsworth , Birmingham ( 1888-91 ). Yn Neheudir Cymru y bu holl gylch ei lafur — Bryn Mawr ( 1891 ); Merthyr Tydfil ( 1894 ); Treorci ( 1895 ); Tŷddewi ( 1896 ); Machynlleth ( 1897 ); Merthyr Tydfil ( 1900 ); Machynlleth ( 1903 ); Llanidloes ( 1904 ); Machynlleth ( 1907 ); Llanidloes ( 1910 ); Treorci ( 1913 ); Merthyr Tydfil ( 1916 ); Aberystwyth ( 1919 ); Ferndale ( 1925 ); Llanidloes ( 1926 ). Ymneilltuodd yn 1932 , gan drigo am ychydig yn Aberystwyth ; yna aeth i Daliesin . Bu f. 16 Rhagfyr 1938 . Yr oedd yn ddibriod.

Fel swyddog taleithiol y bu ei wasanaeth amlycaf. Wedi peth amser yn ysgrifennydd cenhadaeth gartref ei dalaith, fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd y capelau , a daliodd y swydd am 10 mlynedd. Yna fe'i hetholwyd yn gadeirydd y dalaith ( 1917 ), a bu yn y swydd am 15 mlynedd — hyd ei ymneilltuad. ‘Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa Wesleaidd ( 1917 ), ac fel llywydd y gymanfa bu'n gynrychiolydd i'r gynhadledd Fethodistaidd Ecumenaidd yn Toronto . Etholwyd ef yn aelod o Gant Cyfreithiol ei gyfundeb ( 1917 ).

Cyhoeddodd Prif Emynwyr Cymru , Yr Hen Gyrnol , Coelion Cymru , Humphrey Jones a Diwygiad 59 , a ‘ Daniel Owen ,' sef 12 ysgrif yn Eurgr. 1919 .

Llyfryddiaeth:

  • Cofnodion y Gymanfa Wesleaidd , Bangor , 1939 ;
  • Dealler ‘of the Conference.’ , 1939 ;
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd , Dolgellau , Tachwedd 1941 .

Awdur:

Y Parch. Edward Tegla Davies, D.Litt., (1880-1967), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

ISAAC , EVAN ( Bywg. , 393). O Landeilo Fawr yr ymddeolodd.