IORWERTH DRWYNDWN
(bu f.
c.
1174
, y mae'n debygol),
mab hŷn
Owain Gwynedd
a
Gwladus
ferch
Llywarch ap Trahaearn
. Priododd
dywysoges
o
Bowys
, sef
Marared
ferch
Madog ap Maredudd
, a chael ohoni un mab — y
tywysog
Llywelyn Fawr
(wedi hynny). Pan rannwyd tiroedd ei dad cafodd
Iorwerth
Arfon
ac, y mae'n debyg,
Nantconwy
. Ychydig wedi hynny diflanna o dudalennau hanes; efallai iddo f. pan gipiodd ei hanner-brawd,
David
I
, yr awenau yn rhanbarthau gogleddol
Gwynedd
yn
1174
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth